Film

Doc n Roll: Play With the Devil: Becoming Zeal & Ardor

  • 1h 12m

Nodweddion

  • Hyd 1h 12m

Gyda’i fand Zeal & Ardor, cafodd y cerddor o’r Swistir, Manuel Gagneux, ei daflu o’r byd tanddaearol i lwyfannau mawr y byd dros nos. Mae’r gymysgedd feiddgar o Fetel Du a hen ganeuon gweithio a hollers y caeau gan gaethweision Affricanaidd-Americanaidd – ei ateb i gythrudd hiliol ar y Rhyngrwyd – yn wleidyddol ffrwydrol. Crefydd, hiliaeth, arwahanu ac adfeddiad diwylliannol: Gyda’i gerddoriaeth, mae Gagneux yn cwestiynu ac yn chwalu tabŵs. Ond mae cael ei ganmol fel math newydd o arweinydd gan ei gefnogwyr yn dychryn yr artist mewnblyg. Sut mae’n delio gyda disgwyliadau rhy fawr? 

Share