Film
Doc N Roll: Even Hell Has It's Heroes: The Music of Earth
- 1h 50m
Free
Nodweddion
- Hyd 1h 50m
UDA | Clyde Peterson
Ers 1989, mae’r band metel arafaf ar y blaned wedi creu rhai o newidiadau tectonig mwyaf trawiadol y byd cerddoriaeth. Nid yn unig wnaeth y band Earth greu is-genre hynod araf o fetel a chwarae rhan hanfodol yn poblogeiddio cerddoriaeth grynj, ond llwyddodd yr arweinydd gweledigaethol Dylan Carlson i wneud hyn ar yr un pryd â brwydro yn erbyn diflastod tre fach, bod yn gaeth i heroin, a marwolaeth drasig ei gyd-letywr a’i ffrind gorau, Kurt Cobain.
Er mor uchel yw sain y metel drôn hyfryd, dydy Earth erioed wedi bod â llawer i’w ddweud. Am y tro cyntaf, mewn saga deimladwy sy’n parchu’r gerddoriaeth cymaint â’r criw bob-sut o bobl ecsentrig a mawredd swrrealaidd Gogledd Orllewin y Môr Tawel a’i siapiodd, mae Clyde Peterson yn mynd i graidd buddugoliaeth (a allai wedi bod yn drasig) Earth, y band araf a oedd yn newid popeth roedd yn ei gyffwrdd.