Film

Doc N Roll: Dory Previn On My Way To There (adv15)

18
  • 2024
  • 1h 20m
  • USA

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Julia Greenberg
  • Tarddiad USA
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 20m
  • Tystysgrif 18
  • Math Film

Mae ysgrifennu a chanu’r gwirionedd noeth am brofiadau bywyd cyfrinachol yn fwy cyffredin heddiw na phan oedd Dory Previn yn ysgrifennu caneuon gwych, annifyr, doniol a thywyll yn y saithdegau. Dechreuodd Previn yn ysgrifennu geiriau ar gyfer sioeau cerdd Hollywood, a chael ei henwebu am Wobr Academi am hynny, gyda chaneuon i Frank Sinatra, Judy Garland a Dionne Warwick, cyn i sgandal tabloid a chwalfa gyhoeddus arwain iddi ailymddangos fel artist cwlt ar sîn Laurel Canyon.

Gan ddefnyddio cyfweliadau ac archif o ddyddiaduron Dory, lle mae’n siarad yn rhydd am ei lleisiau, mae’n mynegi’n huawdl ac yn ddidwyll ei dealltwriaeth ohoni hi’i hunan a sut mae’n llywio ei hiechyd meddwl. Portread clòs a chrefftus o artist oedd o flaen ei hamser, y mae’r byd ond yn dechrau dal i fyny gyda hi.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share