Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Daniel Weintraub
- Tarddiad Canada
- Blwyddyn 2023
- Hyd 2h 5m
- Math Film
Roedd y byd cyfansoddi ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn llawn o syniadau newydd ac arloesiadau ym maes offeryniaeth. Yn symud yn y byd cyffrous yma roedd y cyfansoddwr, perfformiwr, athro a dyngarwr lesbiaidd, ffeministaidd ac eiconig, Pauline Oliveros. Mewn cydweithrediad â’i phartner Ione, mae’r ffilm yma’n dangos athroniaeth sain, celf a gwrando Pauline, gyda chlipiau prin o’r archif, cyweithiau heb eu rhyddhau gyda Terry Riley, Laurie Anderson a Thurston Moore ymhlith eraill, ac archwiliadau o sut bu i’w harloesiadau wneud lle i bobl eraill greu.
_____
Ymunwch â ni mewn penwythnos o weithgarwch wedi’i guradu gan yr artist preswyl a’r hwylusydd Gwrando Dwfn, Dan Johnson, i ddathlu cyhoeddi A Year of Deep Listening.
Dechreuodd A Year of Deep Listening fel dathliad ar-lein 365 diwrnod o waddol y gyfansoddwraig arloesol Pauline Oliveros, a’r hyn fyddai wedi bod yn ben-blwydd arni’n 90 oed. Cyhoeddodd y Ganolfan ar gyfer Gwrando Dwfn yn Rensselaer un sgôr testun bob dydd — ar-lein ac ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol — am 365 o ddiwrnodau. Yn fynegiant gan y gymuned Gwrando Dwfn, crëwyd y sgorau gan dros 300 o artistiaid — yn amrywio o gyfansoddwyr clodwiw i weithwyr siop fwyd clustfain; ac o bobl fu’n gweithio’n agos gyda Pauline Oliveros am ddegawdau i’r rhai na chawson nhw gwrdd â hi.
Wedi’u cyhoeddi gan Terra Nova a’u dosbarthu gan MIT Press, mae’r sgorau yma nawr yn dod at ei gilydd mewn cyfrol hyfryd a hanesyddol, A Year of Deep Listening.
“Y mwyaf dw i’n gwrando, y mwyaf dw i’n dysgu gwrando. Mae Gwrando Dwfn yn archwilio’r perthnasau ymhlith unrhyw sŵn a phob sŵn, boed yn naturiol neu’n dechnolegol, yn fwriadol neu’n anfwriadol, yn real, yn y cof, neu’n ddychmygol. Mae meddwl hefyd wedi’i gynnwys. Mae arfer Gwrando Dwfn yn cynnwys gwrando, seinio, a darnau symudiad... ac mae’r canlyniadau’n cael eu prosesu gan drafodaeth grŵp, myfyrdodau personol, neu’r ddau. Mae Gwrando Dwfn ar gyfer cerddorion yn ogystal â chyfranogwyr o ddisgyblaethau a diddordebau eraill. Nid oes angen hyfforddiant cerddorol blaenorol.” – Pauline Oliveros
Cyfansoddwr, perfformiwr a dyngarwr oedd Pauline Oliveros (1932-2016), ac roedd hi’n arloeswr pwysig i gerddoriaeth America. Gydag enw da yn rhyngwladol, bu’n archwilio tir newydd o ran ffurfio sain dros chwe degawd iddi hi ei hunan ac i eraill. Drwy waith byrfyfyr, cerddoriaeth electronig, defod, addysgu a myfyrdod, creodd gorff o waith sydd â’r fath ystod o weledigaeth fel ei fod yn effeithio’n ddwfn ar y rhai sy’n ei brofi, a’i fod y tu hwnt i lawer sy’n ceisio ysgrifennu amdano. Cafodd Oliveros ei hanrhydeddu gyda llawer o wobrau, gan gynnwys pedair doethuriaeth er anrhydedd, grantiau, a chyngherddau rhyngwladol.
Times & Tickets
-
Dydd Sul 2 Chwefror 2025
More at Chapter
-
- Performance
A Year of Deep Listening: Performance and Book Launch
Ymunwch â ni mewn penwythnos o weithgarwch wedi’i guradu gan yr artist preswyl a’r hwylusydd Gwrando Dwfn,Dan Johnson, i ddathlu cyhoeddi A Year of Deep Listening.
-
- Performance
A Year of Deep Listening: Workshop with Dan Johnson
Bydd Dan yn tywys cyfranogwyr drwy egwyddorion allweddol Arfer Gwrando Dwfn gan ddefnyddio detholiad o ddarnau o’r llyfr ‘A Year of Deep Listening’ ochr yn ochr â rhai o’r ymarferion roedd Pauline Oliveros yn eu defnyddio fwyaf.
-
- Performance
Dan Johnson: Ecstatic Drum Beats
Ecstatic Drum Beats brings young people together for a series of 10 experimental percussion and performance workshops to explore and celebrate our collective creative potential.