Talks
Deaf Gathering Symposium
Nodweddion
Tocynnau AM DDIM i gynulleidfaoedd Byddar.
Am gweddill tocynnau £15 (llawn); £10 (consesiwn).
Ymunwch â ni am ddiwrnod diddorol o sgyrsiau gan bedwar model rôl Byddar ysbrydoledig. Bydd y symposiwm yn cynnwys cyflwyniadau gan Shaun Fitzgerald, Dr Sara Rhys Jones, Ruth Montgomery a Levi Slade, gyda chyfleoedd i holi cwestiynau a sgwrsio drwy’r dydd.
Mae'r Simposiwm yma wedi'i gefnogi gan Sign Health: The Deaf health charity, and Arts Council of Wales.
___
Cyflwyniadau
Shaun Fitzgerald: Goresgyn Rhwystrau a Cheisio Antur
Bydd Shaun Fitzgerald yn mynd â ni ar daith ysbrydoledig o wytnwch a phenderfyniad wrth iddo rannu ei brofiadau personol fel unigolyn Byddar sy’n llywio’r byd!
Ymunwch â ni i gymryd cipolwg ar stori fywyd Shaun; cawn ddod i ddeall sut i oresgyn rhwystrau corfforol a chymdeithasol i gyflawni’ch nod; pwysigrwydd cadw meddylfryd cadarnhaol; beth sydd i’w ennill wrth gamu allan o’ch cylch cysur; a chyngor ar sut i ddilyn eich breuddwydion a’ch uchelgais.
Dr Sara Rhys Jones: ACTivate Your Life – Llesiant Byddar a Meddwlgarwch
Bydd Sara Rhys Jones yn ein cyflwyno i ACTivate Your Life, sef cwrs Iaith Arwyddion Prydain am ddim sydd wedi’i ddylunio i wella eich iechyd meddwl a’ch llesiant. Bydd hefyd yn siarad am feddwlgarwch, yn egluro sut mae’n helpu ei llesiant hi, ac yn rhannu enghreifftiau o sut gallwn ni ofalu am ein hiechyd meddwl a’n hiechyd corfforol.
Ruth Montgomery: “’Sdim pwynt gwneud cerddoriaeth os wyt ti’n fyddar, oes ’na?”
“’Sdim pwynt gwneud cerddoriaeth os wyt ti’n fyddar, oes ’na?” Ugain mlynedd ar ôl graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Ruth Montgomery yn archwilio a yw teitl ei thraethawd hir o 2005 mor berthnasol heddiw ag yr oedd bryd hynny.
Gan edrych yn ôl dros y blynyddoedd, bydd y sesiwn ddifyr a rhyngweithiol yma’n canolbwyntio ar y tirlun cyflogaeth, agweddau tuag at gerddorion Byddar, a’u lle yn y diwydiant cerddoriaeth.
Mae Levi Slade yn rhannu sut wnaeth ei daith greadigol Byddar trawsnewid ar ôl fynychu Deaf Together 2023.
Mae taith Levi wedi bod ychydig yn wahanol i’r rhan fwyaf o bobl, gan iddi gamu i’r gymuned Fyddar yn 29 oed.
Deaf Together 2023 oedd ei symposiwm cyntaf, a chafodd ei hysbrydoli ar unwaith i wneud gwahaniaeth. Arweiniodd hyn at flwyddyn o addysg, gweithdai, a pherfformio, gan gynnwys yn y Rêf Byddar.
Mae bocsio yn ei chadw hi’n dawel ei meddwl, ac mae wedi bod yn sylfaen ac yn therapi iddi drwy’r cyfan. Cofrestrodd i gymryd rhan yn ei sioe focsio gyntaf ym mis Mehefin 2023, ac fel person Byddar, bu’n rhannu ei phrofiadau i addysgu’r rhai o’i chwmpas.
___
Ynglŷn â’r siaradwyr
Shaun Fitzgerald
Mae Shaun yn siaradwr ysbrydoli Byddar, yn actor ac yn anturiaethwr sydd wedi swyno cynulleidfaoedd gyda’i gyflawniadau a hanes ryfeddol ei fywyd. Mae’n angerddol am wthio ffiniau a goresgyn heriau, ac mae wedi dod yn ffigwr adnabyddus mewn cymunedau Byddar ac sy’n clywed.
Fel siaradwr ysbrydoli, mae Shaun yn defnyddio ei brofiadau personol i rymuso pobl eraill i ddilyn eu breuddwyd ac i chwalu rhwystrau, gan eu hannog nhw i wneud y mwyaf o’u cryfderau a’u safbwyntiau unigryw.
Yn ogystal â’i waith siarad cyhoeddus, mae wedi ymddangos ar First Dates ar Channel 4 a See Hear ar y BBC, gan arddangos ei ddoniau a’i garisma ac ennill cydnabyddiaeth ac edmygedd gwylwyr ledled Prydain.
Anturiaethwr yw Shaun yn y bôn, ac mae e bob amser yn chwilio am heriau a phrofiadau newydd. Boed yn ddringo mynyddoedd, yn teithio pellafoedd byd, neu’n wynebu heriau corfforol, mae’n ymgorffori ysbryd antur a gwytnwch.
Taflun BSL: Deaf Gathering Cymru: Shaun Fitzgerald (youtube.com)
Dr Sara Rhys Jones
Mae Sara wedi bod yn seicolegydd clinigol ers 2003, a hi oedd y seicolegydd clinigol Byddar cyntaf yng ngwledydd Prydain.
Cafodd ei geni’n hollol Fyddar i deulu sy’n clywed ac sy’n Gymraeg ei iaith, mynychodd ysgolion prif ffrwd ac ni ddysgodd Iaith Arwyddion Prydain tan ei hugeiniau cynnar. Aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio seicoleg a chwblhaodd PhD mewn seicoleg ym maes Iaith Arwyddion Prydain a hunaniaeth Byddar.
Bu’n gweithio yn y CAMHS Byddar Cenedlaethol yn Llundain am rai blynyddoedd cyn dychwelyd i Gaerdydd i weithio yn y Tîm Cymorth Cymunedol (CST) i Oedolion ag Anableddau Dysgu. Ers 2019, hi yw Arweinydd Seicoleg CST i Oedolion ag Anableddau Dysgu Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae ganddi dîm o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain rheolaidd ar gyfer ei gwaith clinigol. Mae hi hefyd yn arbenigo ym maes Byddardod ac iechyd meddwl.
Er mwyn ymlacio, mae’n mwynhau treulio amser gyda’i mab, ei theulu a’i ffrindiau; mynd am dro, ioga, coginio a chwarae’r dryms mewn band Affricanaidd-Brasilaidd yng Nghaerdydd!
Taflun BSL: Deaf Gathering Cymru: Sara Rhys Jones ACTivate (youtube.com)
Ruth Montgomery
Cerddor, athrawes, hwylusydd gweithdai ac artist yw Ruth Montgomery. Fel cerddor wedi’i hyfforddi’n glasurol sy’n angerddol am waith modern, mae hi hefyd yn archwilio celf, iaith arwyddion a chyfryngau gweledol yn y gymuned Fyddar, sydd i’w gweld yn ei phrosiect presennol, Audiovisability.
Roedd hi’n Gymrawd Arweinyddiaeth Clore (2018-19) ac mae hi wedi ennill gwobr ysbrydoliaeth Francesca Hanley am ei gwasanaeth i gerddoriaeth ac am brosiectau Audiovisability.
Astudiodd Ruth y ffliwt gyda Chris Molloy yn Ysgol Ramadeg y Byddar Mary Hare, cyn parhau â’i hastudiaethau cerdd yng Ngholeg Cerdd y Drindod yn Llundain.
Yn 2005 graddiodd â gradd Anrhydedd 2:1 Baglor mewn Cerddoriaeth gyda phwyslais ar Berfformio’r Ffliwt yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Nid oedd y rhan fwyaf o’r beirniaid oedd yn ei hasesu yn gwybod ei bod hi’n fyddar.
Heb adael i’w byddardod ei rhwystro, aeth ymlaen i weithio ym maes cerddoriaeth. Cafodd gyfle i berfformio gyda rhai o gerddorfeydd gorau’r byd, fel unawdydd yn chwarae’r Danzi Concerto gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol yn Neuadd Cadogan yn Llundain, gyda Cherddorfa Genedlaethol Rwsia ym Moscow a St Petersburg gyda Sefydliad Music of Life, a gyda’r Fonesig Evelyn Glennie fel unawdydd gwadd. Cafodd profiadau cerddorol Ruth yn Rwsia a Llundain eu ffilmio a’u dangos ar See Hear y BBC (2006) fel Music Has No Bars gyda Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Mae Ruth yn byw yn Essex ar hyn o bryd, ac mae hi wedi astudio gyda rhai o ffliwtwyr uchaf eu parch ym Mhrydain, gan gynnwys Roger Armstrong, Ann Cherry, William Bennett, Christine Messiter, Karen Jones, Patricia Morris, Wissam Boustany a James Kortum i enwi ond rhai.
Taflun BSL: Deaf Gathering Cymru: Ruth Montgomery (youtube.com)
Levi Slade
Bocswraig, dawnswraig a hyfforddwraig o Gasnewydd yw Levi Slade. Roedd hi ymhlith y pum unigolyn a dderbyniodd fwrsariaeth Clywch Ni ar gyfer pobl greadigol Fyddar yn 2023.
___
Llun: Mareah Ali
More at Chapter
-
- Art
Jade de Montserrat: Backgrounding Foregrounding
-
- Art
Celf yn y Caffi — Dale Holmes: Toilscape for Lithic Child
Gosodwaith newydd yng nghaffi Chapter gan yr artist Dale Holmes
-
- Art
EIMEAR WALSHE: MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC
Archwilio cariad a galar am wlad sydd wedi’i chlymu mewn gwaddol trefedigaethol, chwyldro, gwrthryfel, ac addewid heb ei wireddu.