Performance

Deaf Gathering: OftheJackel: Splat!

Free

Nodweddion

  • Math Children/Family

Perfformiad awyr agored

55 munud

Wedi’i ddyfeisio ar gyfer plant 3-7 oed, ond yn hwyl i’r teulu cyfan!

Am ddim, does dim angen archebu.

Comedi gorfforol am gelf a chreadigrwydd yw Splat!

Mae wedi’i gosod mewn stiwdio, ac mae’r sioe’n dilyn dau artist ifanc: un sy’n ymroddedig ac o ddifri, a’r llall sy’n flêr a di-drefn. Mae’r ddau gymeriad yn ceisio cwblhau eu campweithiau – gan wylltio’i gilydd yn y broses!

Maen nhw’n mynd ar daith drwy’r gweledol, gan archwilio mudiadau pwysig yn hanes celf, a thechnegau’r ‘meistri mawr’. Yn y pen draw maen nhw’n sylweddoli os ydyn nhw am gyflawni rhywbeth, bod rhaid iddyn nhw weithio gyda’i gilydd.

Mae’r sioe’n archwilio themâu cydweithio, chwarae, ymroddiad, gwneud pethau’n ddigymell a gadael fynd.

Perfformiad awyr agored yw hwn – gwisgwch yn gynnes! Os nad yw’r tywydd yn ffafriol, fe awn ni i mewn i’r theatr.

Bydd dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain ar gael i gefnogi’r gynulleidfa drwy gydol y sioe.

Ynglŷn â'r perfformwyr

Mae OftheJackel yn creu theatr weledol i gynulleidfaoedd o bob oed. Gall pobl fyddar ac sy’n clywed fwynhau’r gwaith fel ei gilydd, a does dim deialog yn Splat!

Mae OftheJackel yn ymroddedig i fynd â’u gwaith y tu hwnt i leoliadau teithio traddodiadol ac maen nhw’n creu gwaith ar gyfer mynychwyr theatr tro cyntaf yn ogystal â chefnogwyr oes. Maen nhw’n anelu i’w gwaith fod yn hygyrch i bawb.

No need to book, donations welcome. All donations go directly towards supporting our artistic programme, building creative communities in Wales. Find out more here.


Share

Times

  • Dydd Sul 8 Medi 2024

    1. 1:00yh
      • BSL: Iaith Arwyddion Prydain

Key

  • BSL Iaith Arwyddion Prydain