Performance
Deaf Gathering: Jo Fong & George Orange: The Rest of Our Lives
- 1h 20m
Nodweddion
- Hyd 1h 20m
Mae’r sioe yma’n cynnwys dehongliad Iaith Arwyddion Prydain integredig gan Katie Fenwick.
Mae’n anodd. Dim ond ar ddechrau'r diwedd ydyn ni.
Ond rydyn ni’n dal yma...
Mae Jo yn hen ddawnswraig, a George yn hen glown. Maen nhw’n artistiaid rhyngwladol sydd â chanrif o brofiad bywyd rhyngddyn nhw. Maen nhw wedi cyrraedd y canolbwynt, ac maen nhw nawr yn edrych ar weddill eu bywydau gan feddwl, tybed beth sydd nesaf?
Gyda thrac sain o ganeuon gwych, llyfr o docynnau raffl, a fflachlwch ecogyfeillgar wrth law, ymunwch â nhw wrth iddyn nhw drafod bywyd canol oed gyda hiwmor, tynerwch a’r optimistiaeth ryfeddaf.
Comisiwn arbennig gan y Rural Touring Dance Initiative gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Argymhelliad oedran: 14+. Yn cynnwys themâu canol oed a iaith gref.
Ynglŷn â'r artistiaid
Mae Jo Fong yn byw yng Nghymru, ac mae ei gwaith creadigol yn adlewyrchu’r angen i bobl ddod at ei gilydd yn y cyfnod yma. Mae ei harfer artistig yn ddull esblygol a chydweithredol, ac mae syniadau am berthyn neu ffurfio cymuned yn flaenllaw yn y gwaith. Fel cyfarwyddwr, coreograffydd a pherfformiwr, mae ei chyflwyniadau diweddar yn cynnwys An Invitation..., Belonging ar gyfer Blwyddyn Diwylliant Hull, Bridge ar gyfer Gŵyl Xintiandi, Shanghai, a Ways of Being Together ar gyfer Gŵyl Ddawns Caerdydd 2017 a Gŵyl CAN, Llundain 2020. Mae Jo hefyd yn cydweithio gyda’r artist Sonia Hughes, a hynny’n fwyaf diweddar yn Along These Lines (gyda Marilou Craft ac Alexandra ‘Spicey’ Lande), a gomisiynwyd gan Chapter a LA SERRE ar gyfer OFFTA, Montreal (ac yng Nghaerdydd yn 2025), a hefyd yn Neither Here Nor There. Mae hi hefyd wedi gweithio gyda Das Clarks ar gyfer A Brief History of Difference a Marathon of Intimacies gyda’r artist Anushiye Yarnell. jofong.com
Artist perfformio, cyfarwyddwr a pherfformiwr syrcas, gwneuthurwr theatr awyr agored, cyn-fasgot, cyn-berfformiwr drag, crëwr Mary Bijou Cabaret ac athro theatr gorfforol yw George Orange. Ond yn fwyaf oll, ac yn ddi-os, mae’n GLOWN. Dull artistig George yw dilyn methiant tuag at lwyddiant, ac mae’n ymddangos fel pe bai hynny’n gweithio’n hollol iawn iddo. Cafodd Jo a George grant drwy’r British Council ar gyfer Tymor y Deyrnas Unedig/Fietnam 2023. Maen nhw’n bwriadu dychwelyd i Fietnam i barhau â’r gwaith gyda’u ffrindiau newydd yno. Yn y cyfamser, mae’n parhau i deithio â’i sioe syrcas un dyn, Man On The Moon, yn erbyn pob cyngor meddygol. Ychydig flynyddoedd yn ôl, dilynodd freuddwyd ei blentyndod o gyflawni rhywbeth academaidd. Mae George bellach yn feistr cyfarwyddo syrcas, George Orange MA, mae’n gyflawnwr, ac mae hefyd wedi cyflawni Dinasyddiaeth Brydeinig. Mae George yn ddarlithydd yn Circomedia ym Mryste. georgeorange.com
Credid llun: Alan Smith
Hygyrch
Gwybodaeth am hygyrch ein hadeilad a'r cymorth hygyrch rydym yn ein cynnig ar gyfer ein rhaglen a lleoedd llogi.