Events

Deaf Gathering: Dinner Table Syndrome Breakfast

Nodweddion

Sesiwn galw heibio. Does dim angen archebu

Mae Syndrom Bwrdd Bwyd yn derm y mae pobl Fyddar yn ei ddefnyddio gan eu bod yn aml yn cael eu gadael allan o sgyrsiau o gwmpas y bwrdd bwyd.

Sut gallwn ni wneud ein byrddau bwyd yn fwy croesawgar i bobl Fyddar a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol i bobl Fyddar?

Ymunwch â ni gyda brecwast a sgwrs – ac i drafod yr addasiadau y gallen ni i gyd eu gwneud.

Wedi’i gynnal gan Jonny Cotsen.

Does dim angen archebu, mae croeso i roddion. Mae pob rhodd yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein rhaglen artistig, gan adeiladu cymunedau creadigol yng Nghymru. Dysgwch fwy yma.

Share