Art

Stondinau Deaf Gathering Cymru

Nodweddion

Yn ein cyntedd rydyn ni’n croesawu ystod o sefydliadau sydd ar gael i sgwrsio am y ffyrdd gallan nhw gefnogi pobl Fyddar yng Nghymru a thu hwnt. O gyfieithu Iaith Arwyddion Prydain i gymorth iechyd meddwl, o gapsiynau creadigol i rwydweithiau artistiaid Byddar, galwch heibio i ddysgu mwy.

SignLive

Mae SignLive yn cynnig dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar alw 24/7 drwy ap neu borwr gwe.

Gallwch gael mynediad at eu dehonglwyr cymwysedig a phrofiadol drwy bwyso botwm, gan ddarparu cymorth cyfathrebu i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yn y gwaith ac adre.

Maen nhw hefyd yn cynnig dehongli Iaith Arwyddion Prydain i sefydliadau, gan eu helpu i wella cyfathrebu gyda gweithwyr byddar, cymryd galwadau gan gwsmeriaid Byddar, a hwyluso apwyntiadau gyda defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain.

Our Visual World

Grŵp rhwydweithio yw Our Visual World (OVW) sy’n cefnogi artistiaid Byddar i gysylltu a dysgu gan ei gilydd. Maen nhw wedi’u lleoli yn y de, ond maen nhw’n cefnogi artistiaid Byddar ledled Cymru drwy eu cysylltu ag orielau ac amgueddfeydd, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn y byd celf.

Mae OVW yn gweithio gyda’r artist Byddar Jonny Cotsen a Jane Simpson, sy’n rhedeg GS Artists yn Abertawe. Maen nhw hefyd yn cydweithio â Celfyddydau Anabledd Cymru, Clwb Byddar Llanelli ac Oriel Gelf Glynn Vivian.

BSL Zone

Mae Ymddiriedolaeth Darlledu Iaith Arwyddion Prydain (BSLBT) yn comisiynu rhaglenni teledu a gaiff eu creu yn Iaith Arwyddion Prydain. Defnyddwyr Byddar Iaith Arwyddion Prydain yw’r gynulleidfa darged.

Mae’r holl raglenni yma ar gael i’w gwylio ar ein chwaraewr BSL Zone.

Sefydlwyd BSLBT yn 2008 i gynnig ffordd amgen i ddarlledwyr masnachol fodloni eu gofynion rheoleiddiol i ddarparu iaith arwyddion ar eu sianeli perthnasol.

Stephanie Bailey-Scott yw’r Rheolwr Hygyrchedd, Cyfranogiad a Chynhwysiant yng Nghwmni Theatr Taking Flight. Mae’n ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain byddar, ac mae hefyd yn adnabyddus am ei ffyn cerdded hardd! Mae’n actores, yn wneuthurwr theatr ac yn arweinydd gweithdai, ac yn brif hwylusydd i’r unig theatr ieuenctid yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc Fyddar a thrwm eu clyw, sef Theatr Ieuenctid Taking Flight.

Mae Steph hefyd yn angerddol am gelf ac yn paentio’n aml yn ei hamser hamdden. Rydyn ni’n falch iawn y bydd hi’n ymuno â ni i hyrwyddo ei gwaith celf a’i gwaith creadigol arall, gan gynnwys gemwaith hyfryd.


Theatr Vamos yw’r prif gwmni theatr fygydau llawn ym Mhrydain, sy’n mynd â’i frand doniol a dewr o theatr ddi-eiriau ar hyd a lled gwledydd Prydain a thu hwnt. Maen nhw’n creu gwaith hygyrch, doniol, dynol a dewr sy’n seiliedig ar straeon go iawn, ac yn rhannu eu sgiliau mewn ysgolion, gyda staff y GIG, mewn cartrefi gofal, gydag athrawon, actorion, gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol, y gymuned Fyddar, busnesau a mwy.

Dewch i ddweud helo, i wisgo mwgwd neu ddau, ac i ddysgu am gyfleoedd hyfforddi a gweithdai. www.vamostheatre.co.uk

Share