Workshops

Deaf Gathering Cymru: Gavin Lilley: Gweithdy Comedi

Free

Nodweddion

Am ddim, ond rhaid archebu lle.

Ydych chi’n mwynhau gwneud i bobl chwerthin? Awydd camu i’r llwyfan i roi cynnig arni?

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd Gavin Lilley yn rhannu pymtheg mlynedd o brofiad drwy gynnig gweithdy comedi sy’n archwilio strategaethau a chyngor ar sut i ddechrau arni fel digrifwr stand-yp.

Yn ystod y gweithdy dwy awr, byddwch chi’n edrych ar sut i ddatblygu cynnwys, rheoli dull cyflwyno, a rhyngweithio gyda’r gynulleidfa i ddatblygu perthynas.  Bydd Gavin hefyd yn rhannu cyngor hanfodol drwy ei brofiad, fel beth i’w wneud os bydd jôc yn methu neu beth sy’n digwydd os byddwch chi’n colli’ch lle yn ystod y set!

Bydd y gweithdy yma’n rhoi’r hyder i chi gyflwyno sgetsys comedi byr yn gyhoeddus. Os ydych chi’n teimlo’n ddigon hyderus, gallwch hyd yn oed roi cynnig ar ein noson Meic Agored yn nes ymlaen yn y noson!

Cofiwch alw heibio, hyd yn oed os am ychydig o hwyl yn unig… a dyna’r pwynt, wedi’r cwbl!

Share

Times & Tickets

Key

  • BSL Iaith Arwyddion Prydain