Performance

Deaf Gathering 2024: Gavin Lilley

  • 1h 30m

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m
  • Math General Entertainment

1.5 awr gyda cyfwng o 10 munud. | 18+ | Capsiynau, Iaith Arwyddion Prydain | £14/£12

Fel rhan o ŵyl Deaf Gathering Cymru, bydd y digrifwr byddar Gavin Lilley yn dod â’i straeon doniol i Gaerdydd!

Gan ddefnyddio’i brofiadau fel defnyddiwr iaith arwyddion, teithiwr, a thad blinedig i dri, bydd ei fomentau crinj a’i brofiadau o’i fywyd prysur yn gwneud i chi chwerthin dros bob man.

Mae Gavin wedi perfformio ledled Prydain ac Ewrop, gan ddefnyddio ystod o ieithoedd arwyddion, a gwneud i gynulleidfaoedd byddar ac sy’n clywed chwerthin fel ei gilydd drwy ei ddehonglydd iaith.

Bachwch ar y cyfle i’w weld yn rhannu ei safbwyntiau unigryw ar ein diwylliannau amrywiol – a’r arferion ’na y byddai’n well ganddon ni eu cadw’n dawel – drwy ei ddwylo medrus!

Mae’r perfformiad yma mewn Iaith Arwyddion Prydain gyda dehongliad llais a chapsiynau, ac mae’n addas i gynulleidfaoedd B/byddar ac sy’n clywed.

Share