Film

Deaf Gathering 2024: Extraordinary Wall o̶f̶ ̶S̶i̶l̶e̶n̶c̶e̶ + Panel Discussion

Nodweddion

+ Q&A gyda David Ellington (perfformiwr) a George Mann (cyfarwyddwr)

Dywedwyd wrth Helen, Alan a Graham bod nam arnyn nhw a bod angen eu trwsio. Wrth iddyn nhw ddechrau cwestiynu’r byd o’u cwmpas, mae tair stori ddod-i-oed bwerus yn datblygu, gan uno brwydr yn erbyn trais, anwybodaeth a gormes. Gyda hanes yn eu cysylltu, mae’r tri’n cael eu cludo i un eiliad hanfodol ym 1880 pan aned syniadaeth beryglus: un a fyddai’n amharu ar y ffordd mae’r byd yn gweld pobl Fyddar.

Wedi’i llunio o 40 awr o dystebau a gasglwyd gan bobl ledled gwledydd Prydain am eu profiadau o fod yn Fyddar, dyma ddarn o waith adrodd stori grymus ac weithiau annisgwyl, sy’n cysylltu hanes byw gormes a chamddealltwriaeth am y gymuned Fyddar wrth law’r rhai sy’n clywed.

Mae Ad Infinitum yn cyfuno arddull nodweddiadol y cwmni o adrodd straeon yn gorfforol gyda harddwch Iaith Arwyddion Prydain, gan gynnig gwledd i’r synhwyrau.

Cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn Bristol Old Vic yn 2019 a chael clod feirniadol (★★★★ The Guardian), ac aeth Extraordinary Wall ar daith ledled gwledydd Prydain a’i throi’n ffilm i’w dangos yng Ngŵyl No Limits Hong Kong yn 2022.

Perfformiad dwyieithog yw Extraordinary Wall, mewn Iaith Arwyddion Prydain a Saesneg.

Dylech nodi bod y ffilm yn cynnwys cyfeiriadau at drais rhywiol a salwch meddwl.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share