Performance
Dan Johnson: Practice
Nodweddion
- Math General Entertainment
Mae Artist Preswyl Chapter, Dan Johnson, yn perfformio Practice o gwmpas y r adeilad.
12-4pm ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Llun 28 Hydref
Dydd Llun 25 Tachwedd
Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr
__
Mae Dan Johnson yn offerynnwr taro, yn artist perfformio, yn addysgwr ac yn hwylusydd gwrando dwfn sy’n byw rhwng Bryste a Chaerdydd. Mae’n adnabyddus am wthio ffiniau offerynnau taro drwy gelf perfformio hirbarhaus sy’n ymgorffori sain a symudiad. Gwnaeth breswylfa yn Sefydliad Marina Abramovic yng Ngwlad Groeg yn ddiweddar, a bu’n astudio gyda’r Ganolfan Gwrando Dwfn, Efrog Newydd yn 2022. Mae ymagwedd Dan yn gwbl hyblyg ac yn canolbwyntio ar archwiliad ystyrlon. Mae cynulleidfaoedd wedi disgrifio ei berfformiadau fel bregus, hael, hirbarhaus a rhydd.
Dros gyfnod o chwe mis, bydd Dan yn Artist Preswyl yn Chapter, gan gyfrannu ymyriadau a darpariaethau cyhoeddus drwyddo draw. Yn ystod y cyfnod yma, bydd yn gweithio tuag at gyfansoddiad ensemble newydd, ac yn arwain cyfres o weithdai am ddim i bobl ifanc. Bydd Ecstatic Drum Beats yn cyflwyno technegau taro a pherfformio arbrofol, gan ganolbwyntio ar chwarae, gwrando, cyfunoldeb ac ymgorfforiad i archwilio llwybrau amgen a hygyrch i gerddoriaeth a pherfformio byw.