
Workshop
Dan Johnson: Ecstatic Drum Beats
- 2h 0m
Nodweddion
- Hyd 2h 0m
- Math Music
Cyfres o weithdai taro a pherfformio arbrofol i archwilio a dathlu cyd-botensial creadigol. Wedi’i hwyluso gan ein hartist preswyl, Dan Johnson.
Gan ddod ag offerynnau taro, symud, chwarae, gwaith tîm, a thechnegau gwrando at ei gilydd, mae’r gweithdai yma’n gyfle i ddysgu a pherfformio fel grŵp mewn awyrgylch tyner a chynhwysol.
Bydd offerynnau’n cael eu darparu, ond anogwn y cyfranogwyr i ddod â’u rhai nhw os allan nhw.
Does dim rhaid i gyfranogwyr ddod i bob gweithdy, ond y mwyaf o weithdai y gallan nhw ddod iddyn nhw, y mwyaf gwerth chweil fydd y profiad. Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, cysylltwch â kit.edwards@chapter.org ac fe wnawn ni’n gorau i wneud addasiadau.
___
Ynglŷn â'r artist
Mae Dan Johnson yn offerynnwr taro, yn artist perfformio, yn addysgwr ac yn hwylusydd gwrando dwfn sy’n byw rhwng Bryste a Chaerdydd. Mae’n adnabyddus am wthio ffiniau offerynnau taro drwy gelf perfformio hirbarhaus sy’n ymgorffori sain a symudiad. Gwnaeth breswylfa yn Sefydliad Marina Abramovic yng Ngwlad Groeg yn ddiweddar, a bu’n astudio gyda’r Ganolfan Gwrando Dwfn, Efrog Newydd yn 2022. Mae ymagwedd Dan yn gwbl hyblyg ac yn canolbwyntio ar archwiliad ystyrlon. Mae cynulleidfaoedd wedi disgrifio ei berfformiadau fel bregus, hael, hirbarhaus a rhydd.
“Don’t be nervous about signing up for this workshop if you’ve never played percussion previously. A warm and generous facilitator, Dan created an active and stimulating space in which to safely experiment with sound and movement, as an individual and as a group participant. Being able to beat a bass drum (something I’ve always wanted to do but never had the opportunity) and feel its vibrations in my body is something I’ll remember for a long time” Cyfranogwr blaenorol
___
Gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd
More at Chapter
-
- Workshop
Anushiye Yarnell: Archipelago Movement Class
Ymunwch â’r artist Anushiye Yarnell ar gyfer dosbarthiadau Symud Archipelago, wedi’u hysbrydoli gan ioga Scaravelli, asana creadigol, gymnasteg Noguchi, a phatrymau symud esblygiadol a datblygiadol. Yn dyner, yn hyblyg, ac yn agored i bob lefel profiad.
-
- Events
Drones Comedy Club 2025
The best from up-and-coming stand-ups on the first and third Friday of the month.
-
- Workshop
READING GROUP: An Autopsy of a Mother, a Bear and a Fridge (18+)
Join artist Kath Ashill for a relaxed discussion exploring the themes of Deborah Light’s new dance/theatre show: An Autopsy of a Mother, a Bear and a Fridge. No prior reading necessary!
-
- Performance
An Autopsy of a Mother, a Bear and a Fridge
Gyda chreulondeb oeraidd, didwylledd cynnes a chynddaredd ffeministaidd tanllyd mae’n datgelu profiadau personol a systemau patriarchaidd sy’n rhoi pwysau ar y corff benywaidd.