Film
Damnation
- 1h 55m
Nodweddion
- Hyd 1h 55m
- Math Film
Hwngari | 1988 | 115’ | Béla Tarr | Hwngareg gydag isdeitlau Saesneg | Miklós Székely B, Vali Kerekes, György Cserhalmi
Mewn tafarn leol laith o’r enw Titanik, mae dyn unig sarrug, Karrer, mewn cariad â chantores, sy’n sownd wrth ei gŵr llawn dyled. Er mwyn eu gwahanu, mae Karrer yn denu’r gŵr i gynllwyn smyglo a fydd yn ei orfodi i adael y dre, ond buan y mae’r cynllun cywrain yma’n mynd o chwith. Stori atmosfferig am obsesiwn, a dyma oedd y ffilm gyntaf i lansio arddull nodweddiadol a chlawstraffobig Béla Tarr ar y llwyfan rhyngwladol.