Art

Celf yn y Caffi: Dale Holmes: Toilscape for Lithic Child

Free

Nodweddion

  • Math Contemporary Visual Arts

Mae’r gosodwaith newydd yng nghaffi Chapter gan yr artist Dale Holmes yn dod â chyfres o baentiadau mawr ynghyd sy’n archwilio tirwedd a chymuned drwy bresenoldeb parhaus cerrig, mwydod a diwylliant metel du.

Ynglŷn â'r artist

Mae arfer paentio Dale Holmes yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ffocws ar fateroldeb, strategaethau naratif, a rhesymeg arddangos sy’n beirniadu ac yn ymgorffori mathau o sylw gan gynulleidfa. Mae ei broses weithio’n ymgorffori perfformio ac ysgrifennu, ac mae’n gorlifo o’r stiwdio i gyweithiau gwyllt a phreswylfeydd ‘cwcw’ gyda phartneriaid diarwybod, fel clybiau aelodau lleol a brandiau chwaraeon enwog. Mae perfformio treftadaeth ddiwylliannol, dychmygion canoloesol a thraddodiadau naratif, athroniaeth arsylwadol, diwylliant metel du a chlybiau ac urddau oll yn ochrau o waith trosfwaol Dale sy’n ymchwilio i greu, dosbarth a chymuned.  

Ymhlith ei arddangosfeydd a’i berfformiadau diweddar mae: Egg, Todmorden a Steam Works, Wandsworth (ill dau yn 2024), Gloam, Sheffield (2023), Oriel Gelf Huddersfield, Temporary Contemporary, Huddersfield a Kunstverein Nürnberg (oll yn 2022), Oriel Editions, Bochum (2021) Galerie Sabine Knust, München, Academi Celf Gain Xi'an, Xi'an, Canolfan Queen’s Hall, Hexham, a Xero, Kline & Coma, Llundain (oll yn 2019). Mae ei safleoedd a’i arwynebau arddangos anghonfensiynol yn cynnwys beic, dillad chwaraeon, ffensys cadwyn o gwmpas cwrt tennis a chefnlenni llwyfan ar gyfer y band drôn canoloesol Slugmilk.  

Share

Oriel

Rydyn ni’n comisiynu ac yn cyflwyno arddangosfeydd a digwyddiadau sy’n ysgogi’r meddwl gan artistiaid cyfoes, sy’n ehangu ein bydolwg ac yn herio’r status quo.

Learn More