Film

Cuckoo (15)

  • 1h 42m

Nodweddion

  • Hyd 1h 42m
  • Math Film

Yr Almaen | 2024 | 102’ | 15 | Tilman Singer | Hunter Schafer, Dan Stevens

Er yn anfodlon, mae Gretchen yn gadael ei chartref teuluol i fyw gyda’i thad, sydd newydd symud i gyrchfan wyliau yn Alpau’r Almaen gyda’i deulu newydd. Wrth gyrraedd eu darpar gartref, maen nhw’n cael eu croesawu gan fos ei thad, Mr König, sy’n cymryd diddordeb anesboniadwy yn hanner chwaer fud Gretchen, Alma. Mae rhywbeth yn teimlo’n chwithig yn y paradwys tawel yma. Mae Gretchen yn cael ei phoenydio gan synau rhyfedd a gweledigaethau gwaedlyd tan iddi ddarganfod cyfrinach syfrdanol sy’n ymwneud â’i theulu hefyd. Stori dylwyth teg fywiog am hawliau corfforol menywod, gyda pherfformiadau eithriadol.

Share