
Hosted at Chapter
Creating SpACE
Free
Nodweddion
- Math General Entertainment
Mae Gweithredu yng Nghaerau a Threlái yn eich gwahodd i'w harddangosfa 'Creating SpACE'.
Mae'r sioe yn dwyn ynghyd gwaith a gynhyrchwyd dros y chwe mis diwethaf yma yn Chapter ac yn The Dusty Forge yn Nhrelái, yn ystod eu prosiect 'Celfyddydau, Iechyd a Lles'.
Gan ddefnyddio lluniadu i gerddoriaeth, cerflunwaith papur, llyfrau braslunio a chlai, a chydag arweiniad gan gasgliad o ymarferwyr creadigol, mae cyfranogwyr wedi archwilio themâu natur, lliw a ni ein hunain. Mae'r gwaith sy'n deillio o hyn yn ddehongliad unigol a chyfunol o'u gofod creadigol, diogel eu hunain.
Mae 'Creating SpACE' yn brosiect ymchwil a datblygu partneriaeth celfyddydau creadigol ac iechyd, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a gynhelir gan ACE - Gweithredu yng Nghaerau a Threlái. Cefnogir gan Chapter ac mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, YourSpACE a'r 'Prosiect Cyflawnder'.
Mae Peilot ar goridor SWAS ar y llawr cyntaf a gellir ei gyrraedd trwy risiau neu lifft. Mae mynediad heb risiau i'r ystafell. Gofynnwch wrth ein Desg Wybodaeth am gyfarwyddiadau.
Mae ein rhaglen Cynnal yn Chapter yn cael ei chyflwyno gan ein cymdeithion creadigol a’r gymuned leol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi lle yn Chapter ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r tîm Llogi.
More at Chapter
-
- Hosted at Chapter
Garddio: Gweithdai Lles i’r Gymuned LHDTC+
Ymunwch â ni am brofiad creadigol a sylfaenol!
-
- Hosted at Chapter
Bouncers
-
- Hosted at Chapter
Gaelynn Lea + support from Rightkeysonly
Mae’r feiolinydd a chyfansoddwr caneuon o Ogledd America, Gaelynn Lea, yn dychwelyd i Gymru am y tro ers 2017 er mwyn cefnogi ei halbwm cysyniad diweddaraf, Music from Macbeth.
-
- Events
Gŵyl Printiedig — Viva La Print