Art
Crashing the Glass Slippers: Our Visual World workshop (BSL)
Nodweddion
- Math Workshops
1-3pm | Sesiwn alw heibio, does dim angen archebu | Ar agor i bob oedran, rhaid i oedolyn fod gyda phlant.
Ymunwch â’r artist Emily Rose Corby o Our Visual World mewn gweithdy lle mae cyfle i fod yn greadigol gyda phapur lliw, patrymau a phrofiadau bywyd, wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Ntiense Eno-Amooquaye, Crashing the Glass Slippers.
Bydd gennych gyfle hefyd i arddangos eich darn bach o waith celf yn Chapter.
Bydd y gweithdy yma yn Iaith Arwyddion Prydain, gyda dehongliad gan Rebecca Mahoney. Mae croeso i bawb!
___
Our Visual World
Mae Our Visual World yn bodoli i helpu artistiaid Byddar yn y de-ddwyrain. Maen nhw’n adeiladu grŵp rhwydweithio lle gall artistiaid Byddar gysylltu a dysgu gan ei gilydd.
Nod Our Visual World yw cysylltu artistiaid Byddar ag orielau ac amgueddfeydd i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, ac adeiladu cysylltiad cryfach rhwng y gymuned Fyddar a’r byd celf.
Rhaghysbysebion a chlipiau
Does dim angen archebu, mae croeso i roddion. Mae pob rhodd yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein rhaglen artistig, gan adeiladu cymunedau creadigol yng Nghymru. Dysgwch fwy yma.