Art

Ntiense Eno-Amooquaye: Crashing the Glass Slippers

Free

Nodweddion

Mae Crashing the Glass Slippers yn gosod ehangder arfer amlddisgyblaethol yr artist Ntiense Eno-Amooquaye yn ganolog iddo, gan ddod â chorff newydd o waith at ei gilydd sy’n amrywio o ffotograffiaeth, perfformiadau, darluniadau, ffasiwn a thecstilau.

Gan fyfyrio ar ffurfiad eiconau diwylliannol, mae Ntiense yn llunio’i hunan fel gweledigaethwraig, gan greu byd cosmig lle mae testun, gair llafar a delweddaeth yn dod ynghyd i greu gofod di-ben-draw ar gyfer ail-ddychmygu’r hunan.

Crashing the Glass Slippers yw arddangosfa unigol fwyaf Ntiense Eno-Amooquaye hyd yma.

Bydd casgliad o ddillad cerfluniol i’w gweld, yn cynnwys ffrogiau, clogynnau, a siwtiau trowsus, oll wedi’u dylunio gan yr artist. Gan gyfeirio at wisgoedd hanesyddol a couture avant-garde, maen nhw’n ymddangos hefyd yn ei darluniau caleidosgopig. Mae hi’n eu gwisgo a’u hymgorffori mewn cyfres syfrdanol o hunanbortreadau ffotograffig a pherfformiadau ar ffilm, gan eu gwneud nhw’n byrth at drawsnewid.

___

Ynglŷn â'r artist

Cafodd Ntiense Eno-Amooquaye Ddyfarniad i Artistiaid gan Sefydliad Paul Hamlyn yn 2022. Mae sawl darn nodedig ganddi wedi’i arddangos a’i berfformio mewn orielau ac amgueddfeydd yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys Flat Time House, Llundain (2021) ac yn rhyngwladol yn White Columns, New York (2022). Ymhlith ei harddangosfeydd blaenorol mae Oriel Whitechapel Llundain (2009), Amgueddfa Texture, Gwlad Belg (2017) a’i harddangosfa unigol yn y Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol, Canolfan Southbank Llundain (2014). Mae’n aelod o’r gasgleb Intoart yn Llundain, a sefydlwyd yn 2000 ac sy’n cael ei llywio gan uchelgeisiau creadigol o anabledd dysgu a pobl awtistig.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Mae Oriel Chapter ar agor ddydd Mawrth i dydd Sul, 11yb - 5yp.

Oriau agor yr ŵyl
24 Rhagfyr: Ar agor rhwng 11am a 3pm
25 a 26 Rhagfyr: Ar gau
31 Rhagfyr: Ar agor rhwng 11am a 3pm
1 Ionawr: Ar gau

___

Hysbysrwydd
Taflen print bras

Share

Crashing the Glass Slippers