Carry on Screaming
Carry on Screaming: Crossing (15)
- 1h 46m
Free
Nodweddion
- Hyd 1h 46m
- Math Film
Sweden | 2023 | 106’ | 15 | Levan Akin | Georgeg, Twrceg gydag isdeitlau Saesneg | Mzia Arabuli, Lucas Kankava, Deniz Dumanli
Pan mae ei chwaer yn marw, mae’r gyn-athrawes Lia yn addo y byddai’n chwilio am ei merch, Tekla, sydd ar goll ers amser maith. Gydag Achi ifanc a hyderus, sy’n cynnig bod yn dywysydd iddi, mae’n cychwyn am Dwrci i chwilio am Tekla yng nghymuned draws Istanbul. Ond mae dod o hyd i rywun sydd wedi diflannu’n bwrpasol yn profi’n anoddach nag yr oedd Lia wedi’i feddwl. A all Evrim, cyfreithwraig galed a stryd-glyfar sy’n ymladd dros hawliau pobl draws, ac sydd hefyd yn y broses o drawsnewid, eu helpu? Drama ddisglair a thwymgalon am bosibiliadau newid personol, wrth i’r stori symud o arfordir gwyllt y Môr Du yn Georgia i ddinas fywiog Istanbul, gan awdur-gyfarwyddwr And Then We Dance.
A bright, warm drama about the possibilities of personal transformation
Bob bore Gwener
Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.
Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.
Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!
Digwyddiadur - cipolwg
Rydym yn newid i dudalen a fydd yn darparu'r holl wybodaeth byddwch chi angen ar gael ar unrhyw bryd.
Rydym yn cyflwyno ffordd newydd o fynedi ein rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!