i

Performance

Copper Sounds + cefnogaeth gan Gwen Siôn

  • 2h 0m

£10 - £12

Nodweddion

  • Hyd 2h 0m
  • Math Music

Deuawd gelf yw Copper Sounds sy’n defnyddio prosesau traddodiadol a chyfoes i archwilio natur ffisegol a gweledol sain. Maen nhw’n ystyried sain fel deunydd hydrin ac mae ganddyn nhw ffordd unigryw o weithio gyda sain a’i drin, drwy ddylunio a chreu gwrthrychau sonig maen nhw’n eu chwarae’n fyw.

Ar ddechrau 2025, treuliodd Copper Sounds bythefnos yng nhŷ Sonoscopia, yn Porto, yn datblygu offerynnau mecanyddol ac yn cydweithio gyda cherddorion preswyl Sonoscopia. Drwy sesiynau byrfyfyr di-ri, llwyddon nhw i siapio cerddoriaeth newydd yn raddol – gan ffurfio fframiau, arbrofi gyda mecanweithiau, a mireinio eu dyfeisiau sonig newydd. Arweiniodd y pythefnos yma at dair noson yn Porto; a bellach mae Gustavo Costa a Henrique Fernandes o Sonoscopia yn ymuno â Copper Sounds ar gyfer pedair noson fyw yng ngwledydd Prydain.

___

Ynglŷn â'r artistiaid

Deuawd gelf yw Copper Sounds sy’n defnyddio prosesau traddodiadol a chyfoes i archwilio natur ffisegol a gweledol sain. Mae’r gwrthrychau maen nhw’n eu creu yn adrodd stori eu proses ac yn nodi eu taith o drawsnewid deunydd crai yn sain. Dechreuon nhw fel gwneuthurwr recordiau arbrofol; yn creu recordiau o ddeunyddiau fel copr, craig folcanig, sialc a serameg. Yn ystod setiau DJ byw estynedig, maen nhw’n cymysgu’r gwahanol ddeunyddiau yma i greu egni llawr dawnsio tywyll, afreolus a diwydiannol.

Gan weithio gyda sain, cerflunwaith, electroneg DIY, fideo a gosodwaith, mae’r Gwen Siôn yn creu cyfansoddiadau aml-offerynnol, lleisiol ac electronig, ac yn dylunio ac yn adeiladu ei hofferynnau electronig a’i dyfeisiau sain arbrofol ei hunan â llaw, drwy ailgylchu gwrthrychau a deunyddiau naturiol mae’n eu canfod. Mae Gwen yn aml yn defnyddio dulliau cyfansoddi anhraddodiadol sydd wedi’u hysbrydoli gan ddarllen tirluniau fel sgorau ac yn casglu darnau ffisegol o’r tirlun i greu ei hofferynnau.

Share

Times & Tickets