Ralph Fiennes wearing red and gold traditional Catholic Church clothes whilst clasping his hands among a crowd of people.

Film

Conclave (12A)

12A
  • 2024
  • 2h 0m
  • UK

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Edwards Berger
  • Tarddiad UK
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 2h 0m
  • Tystysgrif 12A
  • Math Film

Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.

____

Eleni, i nodi Diwrnod AIDS y Byd rydyn ni'n ddangos ffilm byr La Mamma Morta wedi'i gynhyrchu gan Opera Genedlaethol Cymru cyn pob dangosiad o Conclave.

Dyma datganiad gan y cwmni:

"Eleni, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn nodi Diwrnod AIDS y Byd drwy ryddhau trydedd rhan ein prosiect Tair Llythyren - dehongliad anhygoel o La mamma morta o’r opera Andrea Chénier.

Cyhoeddwyd prosiect Tair Llythyren yn 2021, pan aeth y Cwmni ati i weithio ar y cyd â Fast Track Cymru i godi ymwybyddiaeth o HIV, a mynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm â HIV, wrth gefnogi taith uchelgeisiol Caerdydd at gyrraedd statws o sero trosglwyddiad HIV erbyn 2030."

Gweld mwy o wybodaeth.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share

Times & Tickets

Key

  • IM Is-deitlau Meddal