Performance

Clark/Heinecke/Wierer: Celebrations at The Funeral of Capitalism

  • 2h 15m

Nodweddion

  • Hyd 2h 15m

Pob oedran | Saesneg, Almaeneg

Dyma gyhoeddi marwolaeth Cyfalafiaeth, a fu farw’n dawel ar ôl salwch hir.  

Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ddathlu diwedd y system economaidd a chymdeithasol ymrannol. Nawr, mae’n bryd ffarwelio, a chynllunio ar gyfer dyfodol newydd, i ni, i genedlaethau’r dyfodol, ac i’r blaned. Byd heb ecsbloetio pobl, heb dwf economaidd parhaus ar draul byd natur. 

Gan ofyn y cwestiwn “sut ydyn ni eisiau byw?”, mae Dathlu yn Angladd Cyfalafiaeth yn cyfuno celf, theatr, dawns a cherddoriaeth hefyd, mewn defod fyfyriol derfynol sy’n troi’n barti ac yn bryd bwyd cymunedol.*  

 *Mae’r perfformiad yma’n cynnwys bwffe o fwyd lleol sy’n creu cyfle i ni rannu amser gyda’n gilydd, siarad gyda’n gilydd, a bod gyda’n gilydd. Bydd bwydlen lawn ar gael cyn y perfformiad gyda rhestr o’r cynnwys. 

___

Ynglun â'r artistiaid

Dathlu yn Angladd Cyfalafiaeth/Feierlichkeiten zur Beerdigung des Kapitalismus yw’r ail gywaith rhwng Laura Heinecke a Gareth Clark. Datblygodd partneriaeth Heinecke a Clark drwy archwiliad o rôl yr artist yn ystod cyfyngiadau’r pandemig.  

Wrth ddatblygu’r sioe newydd yma, maen nhw wedi ymuno â Carla Wierer a chasgleb o lunwyr theatr, cerddorion ac artistiaid i archwilio elfennau defod mewn ymgais i greu digwyddiad modern sy’n croesawu gobeithion creadigol a gweledigaeth y tîm amryddawn.   

Mae’r gasgleb newydd yma’n gweithio tuag at greu digwyddiad sy’n fframio taith pedwar perfformiwr wrth iddyn nhw archwilio galar, gadael fynd, dathlu, a chreu lle i lunio cynlluniau newydd. Bydd y gynulleidfa’n dilyn llwybr drwy dri gofod wrth i’r noson ddatblygu’n wledd. 

Llun: Tanja Wehling

Share

Digwyddiadur - cipolwg

Gweld ein byw rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!
Gweld mwy