FIlm
Holi Gwneuthurwyr Ffilmiau
Nodweddion
- Math Talks
10:00 - 14:00, dydd Sadwrn 31/08 | Cyntedd Sinema | Am ddim
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Sinema, mae Chapter yn rhoi cyfle i bobl ifanc 13-18 oed sy’n gwneud ffilmiau ofyn unrhyw gwestiwn i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant am brosiectau creadigol, heriau technegol a/neu lwybrau gyrfa yn y dyfodol.
Bydd y gweithwyr proffesiynol yn cynnwys awdur-gyfarwyddwr, animeiddiwr a sinematograffydd, a gallwch drefnu apwyntiadau byr (am ddim) gyda phob un.
Peiriannydd a Chyfarwyddwr yr Amgylchedd a Chynllunio ar gyfer Cyngor Sir De Morgannwg oedd Ewart Parkinson, a arweiniodd y gwaith o droi canol dinas Caerdydd yn ardal i gerddwyr ac o ddatblygu Bae Caerdydd. Roedd yn angerddol am gefnogi creadigrwydd a chynwysoldeb yng Nghaerdydd a Chymru. Ein nod ar gyfer y rhaglen yma, sy’n cael ei hariannu, yw annog a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau dawnus.