Film
Catching Fire: Anita Pallenberg
- 1h 53m
Nodweddion
- Hyd 1h 53m
- Math Film
Prydain | 2023 | 113’ | 15 | Alexis Bloom, Svetlana Zill
Roedd Anita Pallenberg yn llenwi penawdau papurau newydd ar sawl adeg yn ei bywyd: yn "dduwies roc a rôl," yn "offeiriades fwdw", ac yn "hudoles ddieflig". Cafodd ei chyhuddo o geisio chwalu’r Rolling Stones, ymhlith pethau eraill. Ond roedd y rhai oedd yn ei charu yn ei gweld fel grym diwylliannol cyffrous ac yn fam annwyl, yn ddieuog o’r cyhuddiadau. Mae ffilmiau cartref a ffotograffau teuluol sydd heb eu gweld o’r blaen yn archwilio ei bywyd gyda’r Rolling Stones, ac yn adrodd stori chwerwfelys am fuddugoliaeth a thorcalon. O Barbarella i Alpau’r Swistir, y Lower East Side i Lundain, roedd Anita Pallenberg yn rym creadigol oedd o flaen ei hamser.
Disgrifiad Sain a Isdeitlau Meddal TBC
More at Chapter
-
- Film
Bad Film Club
-
- Film
BFI LFF 2024: The Wild Robot (U)
-
- Film
Conclave (12A)
Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.
-
- Film
Ffilm teulu: Paddington in Peru (PG)
Mae teulu’r Browniaid yn mynd ar antur yn y jyngl gyda Paddington i achub ei Hen Fodryb Lucy.