Jessie Buckley peeps over a wall hiding from something in the film Wicked little Letters.

Film

Carry on Screaming: Wicked Little Letters

  • 1h 40m

Nodweddion

  • Hyd 1h 40m

Dim babi, dim mynediad!

Bob bore Gwener

Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.

Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.


Prydain | 2023 | 100’ | 15 | Thea Sharrock | Olivia Coleman, Jessie Buckley, Anjana Vasan, Timothy Spall

Y 1920au yw hi, ac mae tre Littlehampton yn lle cymharol dawel. Un dydd, mae’r dduwiol Edith Swan yn dechrau derbyn llythyron dienw gwarthus llawn rhegi, ac mae’n mynd ati’n syth i gyhuddo ei chymydog, y cymeriad swnllyd Rose Gooding, o’u hanfon. Mae Rose yn cael ei chwestiynu gan y swyddog heddlu, Gladys, sy’n credu eu bod nhw’n amau’r person anghywir. Gyda grŵp dyfeisgar o fenywod, mae Gladys yn benderfynol o ganfod y drwgweithredwr rheglyd.

Share