Film

Sgrechiwch fel y Mynnwch: Timestalker (15)

15
  • 2024
  • 1h 30m
  • Wales

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Alice Lowe
  • Tarddiad Wales
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 30m
  • Tystysgrif 15
  • Math Film

Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.

Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.

_____

Cymru | 2024 | 90’ | 15 | Alice Lowe | Alice Lowe, Aneurin Barnard, Nick Frost, Jacob Anderson, Tanya Reynolds, Mike Wozniak, Kate Dickie, Gerald Tyler, Boyd Clack

Mae Agnes anffodus yn rhamantydd anobeithiol, ac mae’n cael ei hailymgnawdoli bob tro mae’n gwneud yr un camgymeriad o gwympo mewn cariad â’r dyn anghywir, ond yn anffodus, mae hi’n gwneud hyn dro ar ôl tro.

Awn ar daith drwy hanes gyda’n harwres, gan fyw trwy’r cyffro a’r camgymeriadau sy’n digwydd pan fyddwch chi’n mentro dilyn eich calon. A wnaiff Agnes gallio, neu a fydd hi’n ffŵl am gariad am byth? Ar ôl llwyddiant Prevenge, a oedd wedi’i gosod yng Nghaerdydd, mae Alice Lowe yn dod â’i hiwmor abswrdaidd a disglair o dywyll ’nôl i’r sgrin fawr.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.

Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.

Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!

Share

Digwyddiadur - cipolwg

Rydym yn newid i dudalen a fydd yn darparu'r holl wybodaeth byddwch chi angen ar gael ar unrhyw bryd.

Rydym yn cyflwyno ffordd newydd o fynedi ein rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!

Dysgu mwy