Film

Sgrechiwch fel y Mynnwch: Rosalie (15)

  • 1h 55m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 55m
  • Math Film

Nodwch: Dim babi, dim mynediad!

Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.

Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.



Ffrainc | 2023 | 115’ | 15 | Stéphanie Di Giusto | Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg | Nadia Tereszkiewicz, Benoît Magimel

Yn y 1870au, mae Rosalie’n fenyw ifanc sy’n cuddio cyfrinach; cafodd ei geni â wyneb a chorff wedi’u gorchuddio â blew. Mae hi wedi cuddio ei hynodrwydd drwy gydol ei bywyd, gan eillio er mwyn ffitio i mewn ac aros yn ddiogel. Mae hynny tan i Abel, perchennog bar sydd mewn dyled, ei phriodi i gael ei gwaddol heb wybod ei chyfrinach. Pan mae’n dysgu’r gwir, a fydd modd i Abel garu Rosalie a’i gweld hi fel y fenyw ydy hi? Astudiaeth ddiddorol o normau rhywedd a bywyd ymarferol mewn tre fach yn Ffrainc.

Bob bore Gwener

Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.

Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.

Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!

Share

Digwyddiadur - cipolwg

Rydym yn newid i dudalen a fydd yn darparu'r holl wybodaeth byddwch chi angen ar gael ar unrhyw bryd.

Rydym yn cyflwyno ffordd newydd o fynedi ein rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!

Learn More