Carry on Screaming

Carry on Screaming: Lee (15)

  • 1h 57m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 57m

Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.

Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.

____


Prydain | 2024 | 117’ | 15 | Ellen Kuras | Kate Winslet, Josh O’Connor, Alexander Skarsgård, Andy Samberg, Andrea Riseborough, Marion Cotillard

Rydyn ni yn y 1930au, ac mae Lee Miller yn agosáu at ei chanol oed ac yn mynd ati’n herfeiddiol i sefydlu’i hunan fel ffotograffydd pan mae llawer yn ei diystyru fel dim mwy na model ac awen i Ddynion Mawrion. Mae’r rhyfel yn agosáu, mae’r ffasgwyr ar gerdded, ac mae Miller yn benderfynol o ddod o hyd i ffordd o ddangos gwirioneddau noeth dynoliaeth.

Dyma ffilm nodwedd gyntaf amserol gan y sinematograffydd clodwiw Ella Kuras gyda pherfformiad hynod bwerus gan Kate Winslet. Awn tu ôl i’r delweddau eiconig a greodd Lee, sy’n dangos breuder a ffyrnigrwydd y profiad dynol, yn ogystal â’r bydoedd cyhoeddus a phreifat roedd hi’n brwydro i’w cydbwyso.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Bob bore Gwener

Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.

Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.

Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!

Share

Digwyddiadur - cipolwg

Rydym yn newid i dudalen a fydd yn darparu'r holl wybodaeth byddwch chi angen ar gael ar unrhyw bryd.

Rydym yn cyflwyno ffordd newydd o fynedi ein rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!

Dysgu mwy