Film
Carry on Screaming: Fallen Leaves (12A)
- 1h 21m
Nodweddion
- Hyd 1h 21m
Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!
Y Ffindir | Aki Kaurismäki | Ffinneg gydag isdeitlau Saesneg
Martti Suosalo, Alma Pöysti
Yn Helsinki, mae Ansa a Holappa, dau enaid unig sy’n chwilio am gariad, yn cwrdd ar hap mewn bar karaoke lleol. Mae’r cyfarwyddwr o’r Ffindir, Aki Kaurismäki, wedi crefftio ffilm hardd, ddigyffro arall, sydd bron yn stori dylwyth teg â’i gwreiddiau’n gadarn yn yr oes gyfoes, lle mae’r llwybr at hapusrwydd yn llawn rhwystrau gan gynnwys ofn, alcoholiaeth, straen ariannol a chi strae annwyl.
Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.
Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.
Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!