A man w3ears a silver headdress and looks towards the camera over his left shoulder. He stands in a busy club where purple and pink dimmed lights shine on his headdress.

Film

Carry on Screaming: Disco Boy (ctba)

  • 1h 33m

Nodweddion

  • Hyd 1h 33m

Nodwch: Dim babi, dim mynediad!

Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.

Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.


Ffrainc | 2024 | 93’ | I’w chadarnhau | Giacomo Abbruzzese | Ffrangeg, Ibo, Rwsieg a Phwyleg gydag isdeitlau Saesneg | Franz Rogowski, Morr Ndiaye, Laetitia Ky

Wedi'i ddieithrio o'i famwlad, mae Aleksei ifanc o Felarws a'i fryd ar ddod yn ddinesydd Ffrengig. Ar ôl taith boenus drwy Ewrop, mae'n ymuno â'r Lleng Dramor. Ond mae tynged yn ei yrru i mewn i Delta Niger lle mae’r chwyldroadwr carismatig a di-ofn, Jomo, yn brwydro yn erbyn y corfforaethau olew llechwraidd sy’n bygwth dyfodol ei gymuned. Tra bod Aleksei yn chwilio am deulu newydd yn y Lleng, mae Jomo yn breuddwydio am fod yn ‘foi disgo’. Yn y jyngl, mae eu llwybrau'n cydgyfarfod, gan gydblethu eu tynged ar draws ffiniau, cyrff, bywyd a marwolaeth. Ffilm feiddgar, uchelgeisiol, sydd wedi’i saethu’n ymdrochol gyda thrac sain ymdrochol hefyd (a sgôr electronig tripi, cyflym gan Vitalic), a thaith fywiog a gwefreiddiol sy’n archwilio effeithiau gweithgarwch diwydiannol a milwrol Ewropeaidd yn Affrica a phwysau hanes a chenedligrwydd ar fywydau unigol.

Share