Film

Carry on Screaming: Dahomey (PG) (+ recorded Q&A)

PG
  • 2024
  • 1h 8m
  • France

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Mati Dop
  • Tarddiad France
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 8m
  • Tystysgrif PG
  • Math Film

Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.

Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.

___

Ym mis Tachwedd 2021, mae dogfennydd yn cymryd golwg chwilfrydig a breuddwydiol ar 26 o drysorau brenhinol o Deyrnas Dahomey, sydd ar fin gadael Paris a dychwelyd i’w gwlad wreiddiol: Gweriniaeth Benin erbyn hyn. Gan ddefnyddio sawl safbwynt, mae Mati Diop (Atlantics) yn ystyried sut dylai’r arteffactau yma gael eu derbyn mewn gwlad sydd wedi ailddyfeisio ei hunan yn eu habsenoldeb. Gwaith barddonol ac ymdrochol sy’n archwilio materion pellgyrhaeddol ynghylch adfeddiad, hunanbenderfyniad, ac adferiad.

Yr hyn mae pobl yn ddweud

“A striking, stirring example of the poetry that can result when the dead and the dispossessed speak to and through the living.”

—Jessica Kiang, Variety

Share