Film
Carry on Screaming: Civil War (15)
- 1h 49m
Free
Nodweddion
- Hyd 1h 49m
Nodwch: Dim babi, dim mynediad!
Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.
Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.
UDA | 2024 | 109’ | I’w chadarnhau | Alex Garland | Kristen Dunst, Nick Offerman, Wagner Moura, Nelson Lee
Ffilm wedi’i gosod mewn dyfodol dystopaidd ac ail Ryfel Cartref America. Mae Lee, ffoto-newyddiadurwr dadrithiedig, yn gobeithio teithio o Ddinas Efrog Newydd i Washington D.C. i ddogfennu cwymp y brifddinas i “Rymoedd y Gorllewin”, sef cynghrair rhwng Califfornia a Texas. Yn ymuno â Lee ar ei thaith mae ei mentor Sammy, Jesse ddibrofiad a Joel afreolaidd ac mae’r pedwar yn gweithio’u ffordd drwy ardal y rhyfel wrth i’r gelyn agosáu. Ffilm gyffro amserol, bwerus a dadleuol gan y cyfarwyddwr arloesol Alex Garland.
Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.
Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.
Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!