Film
Carry on Screaming: Challengers (15)
- 2h 11m
Nodweddion
- Hyd 2h 11m
- Math Film
Nodwch: Dim babi, dim mynediad!
Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.
Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.
UDA | 2024 | 131’ | 15 | Luca Guadagnino | Zendaya, Josh O’Connor, Mike Faist
Fel pobl ifanc yn eu harddegau, mae’r ffrindiau gorau a’r darpar chwaraewyr tenis proffesiynol Art a Patrick yn cwrdd â’r rhyfeddod tenis Tashi Duncan ac mae’r tri bywyd yn newid am byth. Mae'r tri yn cwrdd yn y presennol, gydag Art yn bencampwr sydd wedi dechrau colli’n rheolaidd a’i hyfforddwr Tashi, a Patrick sy’n llawn dig a photensial heb ei wireddu. Mae aduniad y tri mewn gêm gynghrair ddi-nod, yn creu atgofion o’u triongl cariad ifanc gan arwain at eiddigedd, chwant a brad. Cyfuniad difyr o denis dramatig, rhamant a chomedi.
Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.
Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.
Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!