Film
Sgrechiwch fel y Mynnwch: Catching Fire: Anita Pallenberg
- 1h 53m
Nodweddion
- Hyd 1h 53m
- Math Film
Nodwch: Dim babi, dim mynediad!
Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.
Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.
UDA | 2024 | 126’ | 12A | David Leitch | Ryan Gosling, Emily Blunt
Dyn styntiau yw e, ac fel pawb yn y gymuned styntiau, mae’n cael ei chwythu i fyny, ei saethu, ei grasho, ei daflu drwy ffenestri a’i ollwng o’r uchelfannau, a’r cyfan i’n diddanu. A nawr, yn syth ar ôl damwain oedd o fewn trwch blewyn o roi diwedd ar ei yrfa, mae’n rhaid i’r arwr dosbarth gweithiol yma ddod o hyd i seren ffilm goll, datrys cynllwyn, a cheisio ennill ei gariad yn ôl – a hynny ar yr un pryd â gwneud ei swydd bob dydd. Beth yn y byd allai fynd yn iawn? Dathliad o weithwyr y byd ffilm a golwg coeglyd ar enwogrwydd mewn ffilm a wnaed gan berfformiwr styntiau a chyfarwyddwr profiadol.
Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.
Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.
Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!