Film

Carry on Screaming: Ama Gloria (12A)

  • 1h 23m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 23m
  • Math Film

Nodwch: Dim babi, dim mynediad!

Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.

Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.


Ffrainc | 2023 | 83’ | 12A | Marie Amachoukeli | Ffrangeg, Kabuverdianu gydag isdeitlau Saesneg | Louise Mauroy-Panzani, Ilça Moreno Zego

Mae Cléo’n chwech oed ac yn byw ym Mharis gyda’i thad gweddw a Gloria, ei nani sy’n fewnfudwraig. Mae’n caru ei thad, ond Gloria yw canolbwynt emosiynol ei bywyd, felly pan mae’n rhaid iddi ddychwelyd i’w gwlad genedigol i ofalu am ei theulu ei hunan, mae Cléo’n torri’i chalon. Mae Gloria’n trefnu iddi gael aros gyda hi yn Cape Verde am un haf olaf. Drama hynod deimladwy am wladychiaeth a chymhlethdodau’r cysylltiad rhwng gofalwyr, gan ganolbwyntio ar emosiynau dwys y plentyn. Dyma ffilm hardd, coeth a chraff, a ffilm gyntaf y cyfarwyddwr, gyda pherfformiad canolog y plentyn yn arbennig.

Cléo and her immigrant nanny spend one final summer together.

Bob bore Gwener

Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.

Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.

Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!

Share