
Film
Cardiff Animation Festival On Tour: Welsh Work (15)
- 2025
- 1h 35m
- Wales
Nodweddion
- Tarddiad Wales
- Blwyddyn 2025
- Hyd 1h 35m
- Tystysgrif 15
- Math Film
Yn 2025, bydd tîm Gŵyl Animeiddio Caerdydd (CAF) yn teithio ar draws Cymru gyda rhaglen deithiol newydd sbon sy’n cynnwys ffilmiau byr wedi’u hanimeiddio a wnaed yng Nghymru.
Mae’r rhaglen yn cyflwyno 9 ffilm ffres gan wneuthurwyr ffilm sy’n Gymry neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac yn rhoi’r cyfle i brofi’r gorau oll o’n hanimeiddiadau cartref!
O ffilmiau myfyrwyr disglair, i storïau unigryw am gariad, ymladd yn erbyn eich cythreuliaid mewnol, a newid hinsawdd; mae gwylio’r rhaglen hon yn helpu i ddathlu gwaith gwneuthurwyr ffilm lleol a chael eich ysbrydoli gan yr holl storïau sy’n cael eu bragu o’ch iard gefn eich hun. Cymru am byth!
Dilynir y dangosiad gan sesiwn holi-ac-ateb wedi'i recordio gyda dau o'r gwneuthurwyr ffilm, ynghyd â chyfle i gyfrannu at animeiddiad cydweithredol!
___
Llun: Passenger.