Art
Galwad i Weithredu: Creu eich poster protest eich hun
Free
Nodweddion
- Math Workshop
Dyluniwch eich poster protest A4 eich hun, gan gymryd ysbrydoliaeth gan Archif Bosteri’r ESGIDIAU COCHION.
Ynglŷn â’r Archif
Mae Archif Bosteri’r ESGIDIAU COCHION yn archif ddigidol a chorfforol, yn osodwaith celf symudol, ac yn brosiect hanes dosbarth gweithiol ac addysg wleidyddol sydd wedi’i leoli yn y de-ddwyrain. Mae’n gweithredu drwy wirfoddolwyr dan arweiniad artistiaid ac undebau llafur, ac yn casglu ac yn cadw posteri o’r sbectrwm cyfiawnder cymdeithasol cyfan. Lansiwyd yr archif yn 2020, ac mae bellach yn cynnwys dros 1600 o bosteri copi caled, effemera, a llyfrgell gynyddol o lyfrau’n ymwneud â chelf, print a graffeg posteri gwleidyddol. Mae’r casgliad yn tynnu sylw at ymgyrchoedd a gweithredoedd o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol chwith blaengar a radical, e.e. heddwch, gwrth-gyfalafiaeth, argyfwng hinsawdd, undod rhyngwladol, cyfiawnder hil, hawliau sifil, a ffeministiaeth. Eu prif swyddogaeth yw ymgyrchu diwylliannol; defnyddio’r casgliad i godi ymwybyddiaeth o hanes diwylliannol a chymdeithasol gweithwyr drwy bosteri. Mae hyn yn agor deialog, trafodaeth a gwerthfawrogiad o rôl a gwerth posteri fel dulliau ymgyrchu yng nghyd-destun newid cymdeithasol a gwleidyddol. Mae’r teitl ESGIDIAU COCHION yn cyfeirio at y lliw sy’n cael ei gysylltu fwyaf â mudiadau torfol dan arweiniad gweithwyr, a’r syniad ein bod ni’n cerdded yn ôl troed y rhai a fu o’n blaenau, gan barhau â’r frwydr i ennill byd mwy teg, cyfiawn a chynaliadwy. Mae’r archif yn unigryw i Gymru, a dyma’r unig gasgliad yng ngwledydd Prydain sy’n edrych yn unswydd ar gasglu a chadw posteri cyfiawnder cymdeithasol