Film

Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn cyflwyno: Stopmotion a Holi ac Ateb (18)

Nodweddion

Cyf. Robert Morgan | 2023 | Isdeitlau a Chapsiynau Byw | Graddiwyd 18

Dewch i fwynhau Calan Gaeaf wrth i Ŵyl Animeiddio Caerdydd gyflwyno ffilm nodwedd iasoer gyntaf Robert Morgan, Stopmotion.

Mae’r ffilm yn dilyn Ella Blake, animeiddiwr stopio-symudiad sy’n brwydro i reoli ei demoniaid ar ôl colli ei mam ormesol, sy’n cychwyn ar y gwaith o greu ffilm a ddaw’n faes y gad i’w phwyll. Wrth i feddwl Ella ddechrau cracio, mae'r cymeriadau yn ei phrosiect yn ffurfio bywydau eu hunain.

Dewch i weld y stori arswydus hon ar y sgrin fawr gyda ni yn Chapter ac yna sesiwn Holi ac Ateb arbennig iawn yn bersonol gyda'r Cyfarwyddwr Robert Morgan, dan arweiniad Ben Mitchell o gylchgrawn Skwigly Online Animation.

Rhybuddion cynnwys: Trais gwaedlyd cryf, gwaed, defnydd o gyffuriau, delweddau sy’n fflachio a neidio

Share