Film

Gŵyl Animeiddio Caerdydd: ME + It's Such a Beautiful Day

Nodweddion

  • Math Film

Dydd Sul 18fed Awst | 12A | Wedi’i isdeitlo


Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn gyffrous i ddod â ffilm animeiddiedig ddiweddaraf Don Hertzfeldt i’r sgrin fawr yn Chapter yr haf hwn!


Bydd y dangosiad yn cynnwys ffilm animeiddiedig ddiweddaraf Don Hertzfeldt 'ME', awdl gerddorol 22 munud am drawma ac enciliad dynoliaeth i'w hunan yn ogystal â ffilm ddiweddaraf Don, ‘It’s Such a Beautiful Day’, yn dychwelyd i'r sinema am y tro cyntaf ers 2012, sydd wedi'i chanmol gan feirniaid a chynulleidfaoedd fel un o'r ffilmiau animeiddiedig gorau erioed.


Gwneuthurwr ffilmiau annibynnol Americanaidd yw Don Hertzfeldt y mae ei ffilmiau animeiddiedig wedi'u dangos ledled y byd. Mae ei waith wedi derbyn dau enwebiad Oscar am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, dwy Wobr Fawr am Ffilm Fer Gŵyl Ffilm Sundance, enwebiad Ffilm fer Palm d’Or yng Ngŵyl Ffilm Cannes, a dros 250 o wobrau eraill.

Share