Film
CAF 2024: Kensuke's Kingdom (PG)
- 1h 24m
Nodweddion
- Hyd 1h 24m
Mae bachgen ifanc a'i deulu yn cychwyn ar daith hwylio oes. Mae cyffro’n troi’n arswyd pan fydd storm ffyrnig yn ffrwydro a Michael a’i gi, Stella, yn cael eu hysgubo dros yr ochr. Maen nhw'n cael eu golchi i ynys anghysbell, yn ofnus ac yn brwydro i oroesi. Un diwrnod, mae Michael yn darganfod nad yw ar ei ben ei hun pan fydd yn wynebu dyn dirgel o Japan sydd wedi byw yno'n gyfrinachol ers yr Ail Ryfel Byd, yn flin bod Michael wedi cyrraedd. Fodd bynnag, wrth i oresgynwyr peryglus fygwth eu hynys baradwys fregus, mae Michael a’r hen ddyn, Kensuke, yn ymuno i achub eu byd cyfrinachol.
___
Yn dilyn dangosiad Kensuke’s Kingdom ar ddydd Sadwrn 27 Ebrill, bydd sesiwn holi-ac-ateb gyda’r Cyfarwyddwr Neil Boyle, y Cyfarwyddwr Celf Mike Shorten a’r Pennaeth Cyfansoddi Neil Martin, dan arweiniad Nia Alavezos.
___
Bydd y dangosiad o Kensuke's Kingdom ar ddydd Sul yn dangosiad ymlaciedig. Mae hi ychydig yn oleuach, mae’r sain ychydig yn is, ac yn ein sinemâu, does dim hysbysebion na rhagddangosiadau ffilm. Mae croeso i ymwelwyr symud o gwmpas yr awditoria neu wneud sŵn fel hoffen nhw.
___
Rhybudd Cynnwys:
Bygythiad ysgafn, golygfeydd gofidus, trais, manylion anafiadau, iaith.