Film
Bye Bye Tiberias (PG)
- 1h 22m
Nodweddion
- Hyd 1h 22m
- Math Film
Ffrainc, Palesteina | 2023 | 82’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Lina Soualem | Ffrangeg ac Arabeg gydag isdeitlau Saesneg
Yn ei hugeiniau cynnar, gadawodd yr actores o Succession, Hiam Abbass, Balesteina tuag Ewrop i ddilyn ei breuddwyd i fod yn actores. Gadawodd ei mam, ei nain, a’i saith chwaer ar ôl. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae’n teithio’n ôl gyda’i merch, Lina, sy’n wneuthurwr ffilm. Gan ddefnyddio darnau ffilm o’r archif, ffotograffau, a barddoniaeth, maen nhw’n edrych drwy hanes ei theulu a’r cenedlaethau o fenywod a wynebodd benderfyniadau anodd am eu dyfodol. Wrth i Hiam a Lina ailgysylltu â’u mamwlad, rydyn ni’n darganfod stori deimladwy am fod yn fam, hunaniaeth doredig a chartrefi coll, yn llawn cynhesrwydd a hiwmor.