Workshops

Darlunio Byw Bwrlésg o dan arweiniad yr artist, Hannah Walters, gyda'r model bwrlésg o Gymru, Lili Del Fflur.

  • 2h 0m

Nodweddion

  • Hyd 2h 0m
  • Math Workshops

Ymunwch â ni am sesiwn darlunio byw hwyliog, hamddenol yn cynnwys y model bywyd a’r perfformiwr bwrlésg, Lili Del Fflur.

Bydd y sesiwn yn dechrau gyda pherfformiad arbennig iawn gan Lili i'ch cael chi yn hwyl bwrlésg! Yna, bydd Hannah yn eich arwain trwy amrywiaeth o ymarferion darlunio i gael eich creadigrwydd i lifo. Yn ystod y ddwy awr, bydd cyfle am frasluniau cyflym ac yna ystumiau hirach i roi amser i chi weithio ar y manylion.

___

Bydd egwyl fer yng nghanol y sesiwn.

Dim angen profiad. Mae croeso i bawb!

Dewch â'ch papur a'ch pensiliau eich hun os oes gennych rai. Bydd cyflenwadau ychwanegol hefyd ar gael at ddefnydd pawb.

___

Dim ffotograffiaeth yn ystod y cyfnod gwaith dosbarth, os gwelwch yn dda.

Share