Talks

Deaf Gathering: Taith Iaith Arwyddion Prydain o arddangosfa Abi Palmer: Slime Mother

  • 1h 0m

Free

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m
  • Math Contemporary Visual Arts

Mae mynediad am ddim, ond mae’n rhaid archebu

Mae arddangosfa Abi yn creu bydysawd amgen, lle caiff gwlithod eu haddoli. Drwy lysnafedd, cwiardeb, a defodau paru erotig ac estron, mae Slime Mother yn eich gwahodd chi i gofleidio dieithrwch y wlithen.

Bydd Emily Rose ac Alex Miller o Our Visual World yn arwain dwy daith Iaith Arwyddion Prydain o gwmpas ein harddangosfa gelf ac yn mynd â chi i fyd llawn llysnafedd! Byddwch yn gadael gyda pharch newydd at wlithod a llysnafedd!


Mae’r arddangosfa’n cynnwys ffilm, cerflunwaith, a disgo gwlithaidd! Mae dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar y sgrin ar gael ar gyfer y ffilm, sy’n chwarae bob 15, 30, a 45 munud wedi’r awr (mae’n para 7 munud i gyd). Mae disgrifiadau sain i’r ffilm hefyd ar yr awr, bob awr.

Os byddwch chi wedi methu’r Teithiau Iaith Arwyddion Prydain, galwch heibio unrhyw bryd rhwng 11am a 5pm. Mae mynediad am ddim.

BSL Tour of Abi Palmer: Slime Mother exhibition

Share

Times & Tickets

Key

  • BSL Iaith Arwyddion Prydain