Film

Bottoms

  • 1h 31m

Nodweddion

  • Hyd 1h 31m

UDA | 2023 | 91’ | 15 | Emma Seligman

Rachel Sennott, Ayo Edebiri

Mae PJ a Josie yn ferched amhoblogaidd, Cwiar, ac anobeithiol yn eu harddegau, ac mae ganddyn nhw gynllun. Dechrau clwb ymladd fel ffordd o ddenu’r cheerleaders a chael rhyw o’r diwedd. Mae eu cynllun rhyfedd yn gweithio, a chyn bo hir mae merched mwyaf poblogaidd yr ysgol ar ben ei gilydd mewn cynddaredd ffyrnig yn enw hunan-amddiffyn. Ond mae PJ a Josie wedi mynd yn rhy bell, ac angen ffordd allan cyn i’w cynllun gael ei ddatgelu. Comedi dywyll glyfar gan awdur-gyfarwyddwr y ffilm hyfryd o dywyll Shiva Baby.

“Comedi ryw ysgol uwchradd glyfar a rhyfedd, sy’n llwyddo i fod yn un o’r ffilmiau mwyaf chwantus mewn cof diweddar... drwy lens benodol o gwiar... Ym myd y ffilmiau comedi tywyll sy’n cofleidio casineb arddegwyr yn eofn, fe gerddodd Heathers fel bod Jawbreaker yn gallu rhedeg, fel bod Mean Girls yn gallu hedfan, a nawr, fel bod Bottoms yn gallu glanio’n falch yn y gofod pell.”

- Aisha Harris, NPR.

Share