Performance

Ocean Hester Stefan Chillingworth: Blood Show

  • 1h 0m

£12 - £14

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m

Mewn ystafell yn rhywle, mae dau berson yn sownd mewn brwydr waedlyd ddiddiwedd. Yn ddychrynllyd o agos iddyn nhw, mae ysbryd yn canu.

Mae Blood Show yn ddathliad traws o ddinistrio pethau, gan gynnwys ni ein hunain, er mwyn creu rhywbeth newydd. Mae’n alwad i weithredu, i roi’r hyn sydd tu mewn tu allan, i ganiatáu’r annibendod ac i amddiffyn yn erbyn byd-olwg treisgar. Mae’n sioe i unrhyw un sydd â chorff; dyma goreograffi ewfforig rhwng tri ffigwr a 75 litr o waed ffug.

Gan gylchdroi o amgylch cwestiynau am ail-eni a’r ffordd rydyn ni’n cario ein hysbrydion gyda ni, mae Blood Show yn rhan o The Extinction Trilogy gan yr artist Ocean Hester Stefan Chillingworth. Mae tri darn o waith (Monster Show, Blood Show a Nature Show) yn cyflwyno arbrawf araf o roi mygydau ar berfformwyr a cheisio dileu pobl o’r llwyfan, er mwyn gwneud i ni feddwl mwy am gyfyngiadau’r corff dynol, pam rydyn ni eisiau gwybod sut mae pobl yn edrych ‘go iawn’, a pha mor beryglus yw’r syniad o’r ‘naturiol’.

Bydd trafodaeth yn dilyn y perfformiad ar 1 Tachwedd. Gyda Ocean Chillingworth, artist Tim Bromage, Craig Hambling a wedi'i chadeirio gan Guradur Rhaglen Berfformio, Kit Edwards.

___

Bywgraffiad yr artist

Artist yw Ocean Hester Stefan Chillingworth (nhw) y mae eu gwaith yn amrywio ar draws perfformiadau, gosodweithiau, testunau a ffilm. Mae’r pethau maen nhw’n eu creu yn aml yn chwarae gyda iaith, hyd, direidi a dryswch, ac mae eu harfer yn ymwneud â phethau sy’n rhyngol ond sydd hefyd yn gorgyffwrdd, ac yn dathlu bywiogrwydd a llithriad. Mae ganddyn nhw ddiddordeb yn meysydd llwyd bywyd, ac mae eu gwaith yn ymroddedig i ddad-wneud pethau sy’n honni eu bod wedi’u trwsio.

Maen nhw wedi bod yn Gymrawd yng Nghanolfan Birkbeck ar gyfer Theatr Gyfoes, yn Feddyliwr Preswyl yn y Live Art Development Agency, yn Awdur Newydd Jerwood yn Theatr y Royal Court, yn Gynhyrchydd Creadigol (Cyfranogiad) i Forced Entertainment, yn Ddarlithydd Drama a Pherfformio Cyfoes ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, a rhwng 2008 a 2018 nhw oedd Cyfarwyddwr Artistig cwmni perfformio GETINTHEBACKOFTHEVAN.

Mae Monster Show (Rhan 1 The Extinction Trilogy) hefyd yn teithio ar hyn o bryd.

___

Wedi’i greu a’i berfformio gan Ocean Hester Stefan Chillingworth gyda Craig Hambling a Tim Bromage

Cynhyrchydd Betty Haynes Cyd-ddylunwyr Naomi Kuyck-Cohen a Joshua Gadsby Datblygiad gwaed gan Bloody Stuff

Mae Blood Show wedi’i gomisiynu gan Ganolfan Gelfyddydau Battersea, Canolfan Gelfyddydau Chapter a Chanolfan Gelfyddydau Colchester. Cefnogaeth ychwanegol gan South House. Comisiynwyd yn wreiddiol gan Cambridge Junction (Cronfa Syniadau Newydd Stobbs) a Chanolfan Gelfyddydau Old Diorama. Gyda chefnogaeth gan LIFT a Chyngor Celfyddydau Lloegr.

Share

Times & Tickets