Performance

Billy Morgan: Hotelle

  • 0h 35m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 0h 35m

Gwaith perfformio yw Hotelle sy’n archwilio mynegiant y benywaidd rhanedig, wedi’i lwyfannu mewn bar gwesty. Yn uno testun ffurf hir gyda phiano byw, mae’r lleisiau amrywiol yn ymddangos drwy osgo a lleferydd, gyda cherddoriaeth a chwsg yn gefndir. Gan chwarae ar ffigwr y femme unig, mae’r gwaith yn llwyfannu’r lolfa biano esmwyth fel rhywbeth cyfatebol i brofiad benywaidd, gan groesi cyflyrau’r gadawedig, chwant, anacroniaeth, a gwrth-ddweud i archwilio’r deuolrwydd sydd wrth wraidd chwant.

Ynglŷn â'r artist...

Artist sy’n byw yn Amsterdam yw Billy Morgan, sy’n gweithio ar draws perfformiad a thestun. Mae ymddieithriad fframweithiau sefydledig — rhai ieithyddol, perthynol, gwerin-gymdeithasol, erotig — wrth wraidd eu gwaith. Mae’r tro yma’n aml yn ymwneud â iaith, genre ac ystum fel cludwyr ystyr, pŵer a hen dafodau.

Ar y croestoriad rhwng testun a dawns, mae eu harfer yn pwysleisio ffuglenoldeb y corff.

Mae Billy wedi rhannu eu gwaith yn ICA, Llundain (2024), Perdu, Amsterdam (2023), ROZENSTRAAT, Amsterdam (2023), Au Jus, Brwsel (2023), marytwo, Luzern (arddangosfa unigol, 2022), Prosiect Juf, Madrid (2022), The Place, Llundain (2022), Eau Salon, Zürich (2021), Salon 14, Warsaw (2020), Cosmos Carl (2020), Capitain Petzel, Berlin (2020), K21 Düsseldorf (gyda Moritz Krauth, 2020) a Kem Warsaw (2020). Maen nhw wedi arwain gweithdai ysgrifennu a pherfformio yn Stiwdios Dawns Siobhan Davies, Llundain (2024), Llyfrgell Gyhoeddus, Caeredin (2023) ac Oriel Fruitmarket, Caeredin (2023).

GWEITHDY AM DDIM: NOS IAU 20 MEHEFIN 6:30-8:30PM


Gweithdy perfformio sy’n ymdrin ag ysgrifennu hunanffuglennol ar gyfer cyd-destun byw yw Hotelle – Ysgrifennu ar gyfer Perfformio. Gan gymryd y sgript ar gyfer eu gwaith perfformio “Hotelle” fel man cychwyn, bydd Billy’n tywys arferion cyd-ddarllen, symud ac ysgrifennu dros gyfnod o dair awr. Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar sut mae’r weithred o ailysgrifennu’r hunan yn gallu datgelu potensial ymgorfforedig newydd a thiriogaethau ar gyfer ymyrryd, trawsnewid a gwrth-ddweud. Mae croeso i bob lefel o brofiad. 


Cysylltwch â [email protected] i archebu. 

Share