i

Film

BFI Future Film Festival presents: The Next Wave in Wales + Pitching Practice

15+
  • 3h 15m

Nodweddion

  • Hyd 3h 15m
  • Tystysgrif 15+
  • Math Film

Mae gŵyl fwyaf y DU ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau ifanc a newydd yn dod i Chapter!

Uchafbwyntiau Gŵyl Ffilmiau’r Dyfodol y BFI
I ddechrau, byddwn yn dangos rhaglen arbennig o ffilmiau byrion newydd gwych o Gymru a ledled y DU, ac yn clywed gan rai o’r bobl greadigol y tu ôl iddynt.

Chapter MovieMaker: Lleisiau Newydd o Gymru ym Myd y Ffilm
Ymunwch â gwneuthurwyr ffilmiau rhwng 16 a 25 oed o bob cwr o Gymru, a fydd yn cyflwyno eu ffilmiau byrion eu hunain ac yn rhannu manylion y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi’u cefnogi.

Sesiwn Diodydd a Rhwydweithio Gŵyl Ffilmiau'r Dyfodol y BFI
Ar ôl i’r ffilmiau byrion gael eu harddangos yn ystod y dydd, dyma gyfle i gwrdd â phobl ifanc greadigol eraill, i ddatblygu eich cysylltiadau, ac i drafod eich camau nesaf yn y diwydiannau sgrin.

HEFYD, ddydd Sul 23 Chwefror, gall pobl ifanc greadigol rhwng 16 a 25 oed gofrestru ar gyfer sesiwn Ymarfer Cyflwyno Syniadau, sef cyfle rhad ac am ddim i gyflwyno eich prosiect ffilm a chael adborth gan weithwyr proffesiynol cefnogol a phrofiadol yn y diwydiant. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a threfnu eich apwyntiad.

Mae digwyddiadau’r BFI Film Academy Nghymru yn cael eu darparu gan Chapter a’u cefnogi gan gyllid y Loteri Genedlaethol.


Nodwch: Mae'r digwyddiad yma am ddim ac nad yw'r ffi archebu £1 yn berthnasol.

Share