Film

Baltimore (15)

  • 1h 38m

Nodweddion

  • Hyd 1h 38m

Iwerddon | 2023 | 98’ | 15 | Joe Lawlor, Christine Molloy | Imogen Poots, Tom Vaughan-Lawlor

Yn y saithdegau, arweiniodd gweithgarwch gwladwriaeth Prydain yng Ngogledd Iwerddon at radicaleiddio Rose Dugdale, recriwt annisgwyl i’r IRA, a lwyddodd i dorri i mewn i Dŷ Russborough yn Swydd Wicklow a dwyn paentiadau drudfawr gan hen feistri i roi pwysau i ryddhau carcharorion gwleidyddol. Roedd Rose, a aned i deulu o fancwyr cyfoethog ac a oedd yn un o sêr ei chyfnod fel débutante, wedi’i gwylltio gan y syniad o’r Ymerodraeth, ac ymunodd â’r mudiad Gweriniaethol ar ôl gorffen ei hastudiaethau yn Rhydychen. Mae’r ffilm gyffro ddwys yma’n ein tywys drwy’r lladrad celf a thaith Rose o etifeddes i ymgyrchydd gwleidyddol treisgar.

Disgrifiad Sain a Is-Deitlau meddal TBC.

Share